OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1505 (Cy. 173)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2015.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3(15) o Reoliadau 2015.
Mae rheoliad 4 yn diweddaru croesgyfeiriad yn rheoliad 10(2)(b) o Reoliadau 2015.
Mae rheoliad 5 yn gwneud diwygiadau i baragraffau 2, 4 a 6 o Atodlen 5 i Reoliadau 2015.
Mae rheoliad 6 yn ychwanegu geiriau egluro at baragraff 4 o Atodlen 6 i Reoliadau 2015.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1505 (Cy. 173)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed 8 Gorffennaf 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Gorffennaf 2015
Yn dod i rym 3 Awst 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998([1]), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth
i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Awst 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio
2. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015([3]) wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliadau a ganlyn.
3. Yn rheoliad 3(15) (dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol) yn lle “2014” rhodder “2015” ym mhob lle y mae’n ymddangos yn y paragraff hwnnw.
4. Yn rheoliad 10(2)(b) (terfynau amser) yn lle’r geiriau “reoliad 21(4)” rhodder “reoliad 21(7)”.
5. Yn Atodlen 5 (asesiad ariannol)—
(a) ym mharagraff 2(1)(h) yn lle’r geiriau “paragraff 5(10)” rhodder “paragraff 5(9)”;
(b) ym mharagraff 4(1)(b) yn lle’r gair “bensiwn” rhodder “bremiwm”;
(c) ym mharagraff 6(1) yn lle’r geiriau mewn cromfachau rhodder “(ac eithrio is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 5)”.
6. Ym mharagraff 4(3) o Atodlen 6 (asesiad ariannol – grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion) ar ôl y geiriau mewn dyfynodau ond cyn y cromfach gau mewnosoder y geiriau “yn y paragraff hwn”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Gorffennaf 2015
([1]) 1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147, Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257 a Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76 ac O.S. 2013/1881. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i gael y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.
([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy. 149) (C. 79)) fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy. 159) (C. 56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).